SL(5)393 – Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn cyflwyno darpariaethau hawlenni a thrwyddedau sydd eu hangen i gydymffurfio â gofynion Rheoliad Rhif 1143/2014 yr UE ar atal a rheoli cyflwyno a lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol (“Rheoliad yr UE”). Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau gorfodi ac yn rhagnodi troseddau a chosbau. 

Mae Rheoliad yr UE yn creu rhestr o rywogaethau sydd o bryder i'r Undeb y mae eu heffaith andwyol yn golygu bod angen gweithredu cydgysylltiedig ar draws yr UE. Mae'n gosod cyfyngiadau llym ar y rhywogaethau hyn felly ni ellir eu mewnforio, eu cadw, eu bridio, eu cludo, eu gwerthu, eu defnyddio na'u cyfnewid, eu caniatáu i atgynhyrchu, neu gael eu tyfu, eu trin, neu eu rhyddhau i'r amgylchedd.

Caiff Rheoliad yr UE ei drosi'n gyfraith y DU pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.  Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg

Gwnaed y Gorchymyn hwn fel offeryn cyfansawdd, sy’n golygu bod y Gorchymyn: (a) wedi cael ei wneud gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. O ganlyniad, mae’r Gorchymyn wedi’i wneud yn Saesneg yn unig.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod angen gwneud y Gorchymyn ar sail gyfansawdd er mwyn helpu i sicrhau dull gorfodi cyson, ac er mwyn sicrhau hygyrchedd a dealltwriaeth ar gyfer aelodau o'r cyhoedd ac eraill. Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn derbyn bod rhesymau da dros wneud y Gorchymyn hwn ar sail gyfansawdd, ond nodwn yr effaith a gaiff hynny (h.y. nid oes fersiwn Gymraeg).

2.  Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Datganiad y Gweinidog yn y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio'n anghywir at y Gorchymyn hwn fel 'the Invasive Alien Species (Enforcement and Permitting) (Wales) Order 2019 (ychwanegwyd y pwyslais).

3.  Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae erthygl 32(1)(a) yn cyfeirio at “the costs of storing a relevant organism detained under article 27(2)” (ychwanegwyd y pwyslais). Mae is-baragraff (2) o Erthygl 27 yn nodi'r cyfnod hiraf y caniateir cadw organeb berthnasol. Nid yw'n rhoi'r pŵer i swyddog tollau dynodedig atafaelu'r organeb berthnasol.

Mae'n ymddangos bod y pŵer sy'n caniatáu i swyddog tollau dynodedig atafaelu organeb berthnasol wedi'i gynnwys yn is-baragraff (1) o Erthygl 27 (yn hytrach nag is-baragraff (2)). Byddai'r cynghorwyr cyfreithiol yn croesawu eglurhad ynglŷn â'r pwynt hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.  Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo gofynion Rheoliad yr UE Rhif 1143/2014 yn uniongyrchol, sy'n rhoi'r ddyletswydd a ganlyn ar Aelod-wladwriaethau: “Member States shall lay down the provisions on penalties applicable to infringements of this Regulation. Member States shall take all the necessary measures to ensure that they are applied.” Mae'r Memorandwm Esboniadol yn tynnu sylw at y ffaith bod y Gorchymyn, ar adeg ei osod, yn cynnwys materion gweithredadwyedd y gwyddys amdanynt, gan gynnwys yr angen i sicrhau cysondeb â Rhiant-reoliad yr UE (a gywirwyd gan Reoliadau Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019).

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bwriedir cywiro'r materion gweithredol hyn drwy gyfrwng offeryn gweithredu ar wahân.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau technegol uchod a nodwyd a hefyd i dynnu sylw at faterion sy'n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.